banner

Croeso i wefan Neil Rosser

Neil Rosser: Cefndir

Brodor o waelod Cwm Tawe sydd wedi denu ysbrydoliaeth am ganeuon allan o gymeriadau lliwgar ei fro enedigol.

Cafodd ei ysbrydoli i ganu am 'Ochor Treforys o'r Dre' ar ôl clywed cyfweliad gan Ian Dury oedd yn datgan fod gwell ganddo ganu am Watford na chanu am California. Yn yr un modd penderfynodd Neil ganu am Glydach, Glais a Bonymaen yn hytrach na Llydaw, Iwerddon a Phatagonia.

Casgliad newydd o ganeuon sef 'Caneuon Rwff' yw'r pumed CD iddo ryddhau ar label ei hunan. Mae Neil yn cyfuno geiriau craff a chaneuon bachog gyda gwaith gitâr Tim Hammil yn ychwanegu sglein.

Ei arwyr cerddorol yw Tom Waits, Ian Dury ac Elvis (Costello).
Ei arwr pêl droed yw Alan Curtis.

 

Hanes Cerddorol: 1987 - 2011

· Neil Rosser a'r Partneriaid – pedwar albwm ar label Ankst, un ar label Sain
· Y Strabs – dau albwm ar label Fflach
· Y Bysgars (Jazz) – un albwm ar Recordiau Rosser
· Neil Rosser – pum albwm ar Recordiau Rosser

 

CDs sydd ar gael i'w prynu drwy’r wefan:

· Yr Ail Ddinas (£3.99)
· Caneuon Rwff (£5.99)
· Gwrthgyferbyniad (£7.99)
· Y Bysgars – Jazz (£5.99)
· Sipsi Gallois – 1 (£5.99)
· Sipsi Gallois – Llygaid Du (£7.99)

... cliciwch yma i fynd i'r siop!


llun 'y vetch': © Chris Cowcher

 
gwefan: © eurigroberts.com 2011