![]() |
Croeso i wefan Neil RosserNeil Rosser: Cefndir Brodor o waelod Cwm Tawe sydd wedi denu ysbrydoliaeth am ganeuon allan o gymeriadau lliwgar ei fro enedigol. Cafodd ei ysbrydoli i ganu am 'Ochor Treforys o'r Dre' ar ôl clywed cyfweliad gan Ian Dury oedd yn datgan fod gwell ganddo ganu am Watford na chanu am California. Yn yr un modd penderfynodd Neil ganu am Glydach, Glais a Bonymaen yn hytrach na Llydaw, Iwerddon a Phatagonia. Casgliad newydd o ganeuon sef 'Caneuon Rwff' yw'r pumed CD iddo ryddhau ar label ei hunan. Mae Neil yn cyfuno geiriau craff a chaneuon bachog gyda gwaith gitâr Tim Hammil yn ychwanegu sglein. Ei arwyr cerddorol yw Tom Waits, Ian Dury ac Elvis (Costello).
Hanes Cerddorol: 1987 - 2011 · Neil Rosser a'r Partneriaid – pedwar albwm ar label Ankst, un ar label Sain
CDs sydd ar gael i'w prynu drwy’r wefan: · Yr Ail Ddinas (£3.99) ... cliciwch yma i fynd i'r siop!
|
gwefan: © eurigroberts.com 2011 |